Roedd y Rheilffordd yn falch iawn o groesawu disgyblion Ysgol Eifion Wyn ar y gwasanaeth ‘Anturiwr Glaslyn’ y mis diwethaf, wrth iddynt fwynhau diwrnod allan i Beddgelert!
Roedd yn ddiwrnod perffaith ar gyfer taith ar y trên wrth iddyn nhw stemio ar draws Traeth Mawr ac heibio yr Abersglaslyn mewn heulwen ogoneddus!
Ers hynny mae’r disgyblion wedi bod yn brysur yn darlunio a phaentio lluniau yn portreadu eu diwrnod allan ar y trên ac wedi bod mor garedig â’u hanfon i mewn fel ‘Diolch’ am eu taith!Mae eu lluniau a’u paentiadau bellach yn cael eu
harddangos yma yn Spooner’s ac yn y Neuadd Archebu yng Ngorsaf yr Harbwr.
Hoffem gynnig diolch mawr i’r holl ddisgyblion am eu lluniau gwych!