Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda ‘Big Dog Pizza’ ar gyfer Nos Fawrth Pitsa!
Bydd Big Dog Pizza yn coginio Pitsas blasus tu allan i Spooners yng Ngorsaf yr Harbwr bob Dydd Mawrth o 16:30 ymlaen.
Unwaith y byddwch wedi casglu eich pizza, gallwch eistedd yn ôl a mwynhau diod o’n bar.
Gellir dadlau mai dyma’r pitsa gorau yng Ngogledd Cymru ynghyd â’r lle gorau i yfed ym Mhorthmadog – cyfuniad perffaith!
Cofiwch archebu eich pitsa ymlaen llaw ar WhatsApp 07593 682 066 i osgoi cael eich siomi..!
Cadwch olwg ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol ‘Big Dog Pizza’ am gyhoeddiad y fwydlen.
Felly, dyna chi – mae nosweithiau Mawrth yn nosweithiau Pitsa yma yn Spooners!