Rydym yn edrych am “Rheolwr Bwyd a Diod”

Ydych chi’n rheolwr profiadol yn y maes lletygarwch, yn chwilio am her newydd?

Os felly, efallai y bydd ein swydd wag ‘Rheolwr Bwyd a Diod’ o ddiddordeb.

Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig, uchelgeisiol i ymgymryd rôl o reoli’r ddarpariaeth arlwyo a lletygarwch ar draws y rheilffyrdd. 

Bydd hyn yn cynnwys rheoli Spooner’s, ein caffi a’n Bar yng Ngorsaf yr Harbwr, Porthmadog; Ystafelloedd De Gorsaf Tan y Bwlch; a’n lletygarwch ar y trên. 

Byddwch yn gyfrifol am adfywio ein gwasanaethau arlwyo a lletygarwch, gan ail-lansio Spooner’s fel chwaraewr allweddol ar faes lletygarwch Gogledd Cymru. 

Byddwch yn ymwneud â recriwtio, hyfforddi a rheoli tîm o weithwyr arlwyo proffesiynol medrus i ddarparu bwyd a diod o ansawdd uchel a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar gael yn y linc uchod.

Fel arall, anfonwch eich ‘CV’ a llythyr eglurhaol i applications@ffwhr.com

Comments are closed.