Bob dydd lau : Noson Gyrri
Ymunwch â ni heno i fwynhau cyri (Cyw Iâr Aromatig • Cig Eidion • Llysiau) gyda dewis o reis, sglodion, bara naan, poppadoms a siytni mango.
Bydd y bwffe yn cael ei weini o 17:00 – 20:00 (yn dibynnu ar y galw). £9.95 y pen, neu diod gyda’ch pryd am £11.95.
(Mae cynnig diodydd yn cynnwys Peint o Lager / Seidr / Cwrw neu Ddiod Meddal)
*Bydd blychau tecawê ar gael.
Gall nosweithiau thema ardDydd Iau amrywio – Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fanylion.
Os oes gennych unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol, gofynnwch i aelod o staff am ein ffolder alergenau a rhowch wybod iddynt wrth archebu
Bob dydd gwener : Prydau Nos / Noson Bingo
Bydd ein Bwydlen Nos newydd ar gael y Dydd Gwener hon, ac yn parhau i fod ar gael ar Ddydd Mercher, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn.
Bydd ein Noson Bingo poblogaidd hefyd yn parhau ar Ddydd Gwener yma, felly dewch draw, bachwch diod, casglwch eich cerdyn Bingo a chwaraewch am gyfle i ennill yn fawr!
Byddwn yn dechrau’r noson gyda rownd 1-lein, 2 linell, tŷ llawn, cymerwn egwyl ar gyfer y raffl ac yna gorffen gyda rownd derfynol tŷ llawn!
Bydd cardiau bingo ar werth o 19:30 – 19:45 a’r gemau’n dechrau am 20:00.
Bob dydd sul : Chwe Gwlad yn cychwyn
Dydd Sadwrn yma, bydd y Chwe Gwlad yn cychwyn a bydd pob gêm yn fyw ar ein Teledu Sgrin Fawr.
Mae ein cynigion arbennig ar gyfer y Chwe Gwlad yn cynnwys bacwn/selsig neu wy wedi’i ffrio a pheint hanner amser am £6.00 yn unig (Carlsberg, Kingston Press, Guest Ales neu Diodydd meddal yn unig)
Sylwch, ni all y cynnig gael ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw ostyngiadau eraill.
Dydd Sul, 29ain o Ionawr 2023: Cerfdy Sul
Bydd ein Cerfdy Dydd Sul yn parhau y penwythnos hwn felly beth am adael i ni wneud yr holl waith caled a gweini pryd blasus i chi o’n Cerfdy – sydd ar gael rhwng 12:00 – 15:00, yn dibynnu ar y galw.
Dewiswch o’n detholiad o ddewisiadau Cig Eidion, Porc neu Cyw Iâr wedi’u cerfio’n ffres, ynghyd ag amrywiaeth o ochrau a sawsiau blasus.
Mae eich Cerfdy Dydd Sul yn cynnwys:
▪️ Dewis o Gig Eidion, Porc neu Cyw Iâr (wedi’i gerfio yn ôl yr archeb)
▪️ Detholiad o ochrau: Caws Blodfresych, Bresych Coch, Pannas Rhost, Moron, Tatws Rhost, Stwnsh, Ffa Gwyrdd, Grefi + Grefi Heb Glwten, Saws Seidr (ar gael gyda Phorc), Saws Llugaeron
▪️ Bydd opsiwn fegan ar gael.
£13.95 y pen / £5.95 Cyfran plant
(Ychwanegwch ddewis ychwanegol o gig am £2.00)
▪️ Argymhellir cwsmeriaid i archebu bwrdd ymlaen llaw drwy ddefnyddio’r botwm ‘Anfon Neges’ neu drwy ein ffonio ar 01766 516032
*Bydd opsiynau tecawê ar gael.
Gellir archebu prydau carferi ar y diwrnod hefyd, yn amodol ar argaeledd.
Felly dyna chi, digon o resymau i