Rydym bellach yn nesau at ddiwedd y gwasanaeth trên dyddiol ar Reilffordd Ffestiniog, ac felly rydym yn cynllunio ffyrdd i ychwanegu ychydig mwy o amrywiaeth at nosweithiau allan yn Spooner’s…
Felly, rydym yn hapus i ddweud, o’r 3ydd o Dachwedd, bydd y sesiynau BINGO poblogaidd yn dychwelyd ar nos Wener. Cadwch lygad am fwy o fanylion wrth i ni agosau at yr amser – ond am y tro, a fyddech cystal â lledaenu’r gair ymhlith ffrindiau a theulu…
HWRE, MAE BINGO YN ÔL..!