O ddydd Gwener 29ain Tachwedd hyd ddydd Llun 23 Rhagfyr 2019
Rhaid archebu ymlaen llaw: 01766 516032
I DDECHRAU
Cawl Llysiau Rhost y Tymor gyda Stilton – gyda rhôl â chrystyn a menyn.
Eog Coch – gyda betys a crème fraiche gyda fodca.
Terîn Coesgyn Porc Mwstard – gyda chatwad nionyn coch, tost a salad bach.
Salad Frittata Caws Gafr a Betys.
PRIF GYRSIAU
Cinio Nadolig Rhost Traddodiadol:
Brest Twrci Blasus ein Cigydd – gyda stwffin llugaeron a bacwn, mochyn bach mewn blanced, tatws rhost, sbrowts, panas wedi’u rhostio mewn mêl, moron a chabaets coch.
Stecen Llygad yr Asen 8 Owns – gyda sglodion bras, cylch nionyn cartref, madarchen garlleg, tomato ceirios a menyn garlleg.
Ffiled Draenog Môr wedi’i Ffrio – gyda saws menyn lemon a pherlysiau, ffa gwyrdd ffres, tatws newydd a llysiau ffres.
Tair Madarchen y Maes – wedi’u llenwi â sbigoglys garlleg a llysiau cymysg Môr y Canoldir a chaws Cheddar gratiedig a briwsion bara drostynt – gyda llysiau ffres.
PWDINAU
Pwdin Nadolig – gyda saws brandi neu hufen iâ Nadoligaidd.
Cacen Gaws ‘After-Eight’ Gartref – gyda saws siocled mint hufennog.
Poitsh Nadolig – fersiwn Nadoligaidd o’r Poitsh Eton clasurol gyda llugaeron, oren, mefus, mwyar cymysg a meringue mâl sinamon.
Detholiad o Gawsiau o Gymru – gyda grawnwin ffres, catwad nionyn a chracers.
I ORFFEN
Pot o De neu Goffi Ffres o’ch dewis a Mins-pei Gartref.
£20.95 yr un
Nodwch:
Codir £2.50 yn ychwanegol am y Stecen Llygad yr Asen.