Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru y bydd y rhan fwyaf o reolau coronafirws Cymru yn dod i ben Dydd Sadwrn, hoffem egluro ein safbwynt yma yn Spooner’s.
Rydym wedi penderfynu parhau i weithredu sawl mesur i gadw ein staff a’n cwsmeriaid yn ddiogel.
Yn unol â pholisi Rheilfyrdd Ffestiniog ac Eryri, byddwn yn gofyn i gwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb yn Spooner’s oni bai eu bod yn eistedd wrth fwrdd ac i gynnal pellter cymdeithasol pryd bynnag y bydd yn bosib.
Ni fyddwn yn gweithredu ar sail gwasanaeth bwrdd yn unig. Felly, er bod yn rhaid i gwsmeriaid aros i gael eu heistedd gan aelod o staff, unwaith y byddant wedi dod o hyd i fwrdd, byddant yn rhydd i fynd i fyny at gownter y caffi neu’r bar i brynu eu heitemau bwyd a diod.
Bydd ein gwasanaeth Siop Cludfwyd yn parhau i fod ar gael.
Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.