Pwy sy’n barod am noson arall o Bingo yma yn Spooner’s..?
Rydym wedi cael presenoldeb da iawn dros yr wythnosau diwethaf, sydd wedi arwain at botiau gwobrau sylweddol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw am gyfle i ennill gwobrau mawr..!
Bydd gennym hefyd ddewis gwych o wobrau i ddewis ohonynt yn y Raffl felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl.
Bydd cardiau bingo ar werth o 19:30 tan 19:45 a’r gemau’n dechrau am 20:00. Mae tocynnau yn costio £2 am dair gêm ac mae bingo ‘dabbers’ ar gael am £1 yr un. Bydd gwobrau ariannol a nifer o gynigion arbennig ar ddiodydd a choctels.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Spooner’s – a chofiwch, mae ein Bwydlen Bar ar gael ar nos Wener gyda bwyd poeth yn cael ei weini o 17:00-20:00, felly beth am fwynhau pryd o fwyd blasus cyn i’r hwyl ddechrau..!