Enwyd Spooner’s ar ôl James Spooner, peiriannydd comisiynu’r Rheilffordd Ffestiniog wreiddiol, a’r gŵr a adeiladodd y lein rhwng 1832 a 1836. Cafodd ei olynu gan ei fab, Charles Easton Spooner, a barhaodd y llinach beirianyddol hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Doniau James a greodd y lein, tra roedd Charles yn athrylith o beiriannydd. Creodd, yn Rheilffordd Ffestiniog, y cynllun sydd yn sail i reilffyrdd cul ar draws y byd – rheilffyrdd yr Ymerodraeth. Roedd hyn ar yr adeg pan oedd y Senedd yn ceisio penderfynu ar led rheilffordd safonol ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Prydain – 4’8½” Stephenson neu 7’¼” Brunel -ac mae’n siŵr bod 2′ Rheilffordd Ffestiniog wedi ymddangos yn chwerthinllyd. Ond yn sicr fe brofodd ei werth, a’r prawf o hynny yw’r nifer o reilffyrdd cul a adeiladwyd ar draws y byd.
Gellir gweld rhywfaint o athrylith beirianyddol Charles ar waliau Spooner’s: ei luniau o’r cyfnod a ffotograffau, gan gynnwys un o’r dyn ei hun. Sied nwyddau wreiddiol yr orsaf oedd rhan o’r adeilad. Edrychwch yn ofalus ar y ddwy ffenestr fawr sydd yn agor i’r teras a dychmygwch y cledrau yn dod i mewn a wageni nwyddau yn cael eu dadlwytho er mwyn cael eu cario gyda throl a cheffyl o amgylch y dref. Heddiw mae’r ffenestri hyn yn agor i’n teras y tu allan.
Yma, rhwng y ddau blatfform, gallwch eistedd a mwynhau edrych ar y trenau’n mynd a dod. Os nad dyna sy’n eich helpu i ymlacio edrychwch y tu hwnt i’r cledrau ar yr olygfa tuag at y môr lle mae aberoedd afonydd Glaslyn a Dwyryd yn llifo’n un neu ar fynyddoedd Eryri yn y pellter.
Spooner’s – rhywbeth ar gyfer pawb!